Mae dau ddyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o ymosod, ar ôl i gorff dyn 30 oed gael ei ganfod mewn eiddo yn Rhydaman.

Cafodd yr heddlu, y gwasanaeth ambiwlans a’r ambiwlans awyr eu galw am oddeutu 12.30 brynhawn ddoe (dydd Sadwrn, Tachwedd 2).

Ond fe fu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Dywed yr heddlu fod rhagor o blismyn wedi cael eu hanfon i’r ardal fel rhagofal am y tro.