Mae ffrae wedi dod i’r wyneb ynghylch taith rhieni a chyfeillion Ysgol Dyffryn Nantlle i Primark mwya’r byd yn Birmingham.

Bwriad Cyfeillion Ysgol Dyffryn Nantlle yw codi arian drwy gael plant i dalu i fynd ar fws i Primark mwya’r byd yng nghanolbarth Lloegr.

Mae’r adeilad pum llawr yn mesur 160,100 troedfedd sgwâr ac yn cynnwys tri chaffi.

Mae’r tocynnau ar gyfer y daith heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 2) yn costio £21 gyda’r bws yn gadael am 7:00 y bore ac yn dychwelyd am 5:30 yr hwyr.

Ond mae nifer o rieni a phobol sy’n gysylltiedig â’r ysgol wedi cwyno am y daith am resymau amgylcheddol, a bod Primark yn euog o ddiffyg egwyddorion.

Maen nhw hefyd yn anghyfforddus â’r pwysau mae’r daith yn ei roi ar rieni i wario arian.

Roedd trafodaeth ar Facebook, ond mae’n ymddangos ei bod hi bellach wedi cael ei dileu.

‘Y trip ddim yn fater i’r ysgol’

Dywed Alwen Pennant, prifathrawes yr ysgol, mai mater i ffrindiau a rhieni’r ysgol yw’r daith.

Ond mae hysbyseb ar Facebook yn dweud bod modd archebu lle ar y daith drwy ffonio swyddfa’r ysgol.

“Mae’r trip yn cael ei drefnu gan gyfeillion Ysgol Dyffryn Nantlle ac yn digwydd ar benwythnos y tu allan i oriau ysgol,” meddai Alwen Pennant.

“Felly tydi o ddim wir yn fater rydym ni fel ysgol mewn lle i ymyrryd ynddo.”