Mae Ann Clwyd yn dweud ei bod hi “wedi digio” yn sgil y penderfyniad na fydd hi’n cael sefyll eto yn yr etholiad cyffredinol yn sgil ei hoedran.

Mae’r aelod seneddol 82 oed tros Gwm Cynon wedi bod yn cynrychioli ei hetholaeth yn San Steffan ers 35 o flynyddoedd.

Ond hwn fydd ei chyfnod seneddol olaf.

“Dw i’n ofni bod rhaid i fi gyfaddef fod hynny’n wir, fod fy oedran wedi cael ei nodi fel rheswm dros beidio eisiau i mi sefyll rhagor, ac mae hynny’n rywbeth dw i wedi digio yn ei gylch,” meddai ar raglen The Week in Westminster ar Radio 4.

“Dw i ddim yn meddwl y dylid barnu pobol wrth eu hoedran cronolegol oherwydd mae’n dibynnu pa mor weithgar ydych chi yn y lle hwn, a’ch cymhelliant.

“Felly na, dw i ddim yn bles ei fod e wedi dod i ben ac o ran fy etholwyr, dw i’n dal i frwydro am lawer o bethau ar eu rhan nhw, a dw i’n gobeithio gallu cwbhau’r frwydr honno rywle neu’i gilydd.”

Gyrfa

Mae Ann Clwyd yn 82 oed, a chafodd ei hethol yn aelod seneddol Cwm Cynon yn 1984, sef blwyddyn Streic y Glowyr.

Dim ond pump aelod seneddol Llafur o Gymru yn hanes y blaid sydd wedi bod yn San Steffan am yn hirach na hynny.

Hi hefyd yw’r ddynes sydd wedi treulio’r cyfnod mwyaf yn San Steffan.

Yn ei hetholaeth hi mae pwll glo Tŵr.

Yn fwy diweddar, cafodd ei hanfon i Irac adeg y rhyfel gan Tony Blair, oedd yn brif weinidog ar y pryd.

Mae hi hefyd yn ymgyrchu’n frwd ar faterion y Gwasanaeth Iechyd ers colli ei gŵr, Owen Roberts, yn 2012.