Mae rhybuddion tywydd mewn grym yn y de a’r gogledd heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 2).

Fe fu rhybuddion am law trwm mewn 17 sir yn y de a’r gogledd ers 6 o’r gloch fore heddiw.

Mae rhybudd arall am wyntoedd cryfion yn y de mewn grym tan 6 o’r gloch heno, gyda’r M4 wedi’i heffeithio gan law trwm hefyd.

Mae llifogydd yn ardaloedd Treforys ger Abertawe, a Wrecsam.

Gallai’r tywydd effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus drwy gydol y dydd, ac fe allai rhai ardaloedd golli eu cyflenwadau trydan.