Mae Plaid Cymru wedi dod yn destun sbort y prynhawn yma ar ôl honni y byddai’r tîm rygbi yn fwy tebygol o ennill Cwpan y Byd pe baen nhw mewn grym.

Mewn datganiad i’r Wasg mae’r Blaid yn dweud y bydden nhw’n ariannu “raglen buddsoddiad sylweddol” a fyddai’n hybu chwaraeon ar lawr gwlad.

Daw hyn wedi i Gymru fethu ag ennill gêm ‘y fedal efydd’ yng Nghwpan y Byd y bore yma, ac awgrym y datganiad yw mai toriadau Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y methiant.

Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi galw’r datganiad yn “embaras” tra bod y cyn-Weinidog Alun Davies wedi dweud: “Plîs dywedwch wrtha’ i bod hyn ddim o ddifri!”. Mae’r ddau wleidydd yn gyn-aelodau o Blaid Cymru.

Y datganiad

“Mae llefarydd chwaraeon llawr gwlad Cymru, Helen Mary-Jones, wedi dweud heddiw y byddai tîm rygbi Cymru yn fwy tebygol o ennill Cwpan y Byd gyda Phlaid Cymru wrth y llyw,” meddai’r Blaid yn eu datganiad.

“Mae hynny oherwydd rhaglen buddsoddiad sylweddol ar gyfer chwaraeon llawr gwlad.

“Mae toriadau i gyllidebau cynghorau lleol gan y Llywodraeth Llafur yng Nghaerdydd yn golygu bod gwario ar gyfleusterau a rhaglenni chwaraeon wedi’u torri gan 36.3% o gymharu â ffigurau 2009/10.”