Mae Jason Farrell wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar yn Llys y Goron Abertawe, am ladd Sammy-Lee Lodwig yn ogystal â 14 mlynedd am ymosod ar Christopher Maher.

Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Sammy-Lee Lodwig gydag anafiadau i’w gwddf a’i thalcen ar ôl i Jason Farrell ei thrywanu yn dilyn ffrae ar Ebrill 23.

Roedd y ddau yn gariadon, ac roedd Jason Farrell wedi bod yn cael perthynas gyda mam y ferch gafodd ei lladd hefyd.

Yn ymateb i’r ddedfryd, dywedodd y Prif Arolygwr  Darren George o uned troseddau difrifol Heddlu’r De: “Roedd Sammy Lee yn ddynes ifanc a chafodd ei bywyd ei gymryd ar ôl ymosodiad treisgar a chreulon gan ddyn oedd hi’n ei drystio.

“Daeth y rheithgor i wybod fod Jason Farrell wedi dangos diystyriaeth lwyr am fywyd Sammy-Lee. Cafodd ei chlymu a dywedodd Jason Farrell wrthi ei fod am ei lladd, a gwnaeth hynny wrth ei thrywanu sawl gwaith.”

Roedd Jason Farrell mewn perthynas gyda mam Sammy-Lee am gyfnod ac mae’n debyg ei fod wedi ymosod ar Christopher Maher am ei fod yn credu ei fod mewn perthynas â mam Sammy-Lee.