David Davies
Mae’r Aelod Seneddol David Davies wedi dweud y dylai statws cyfreithiol y Cynulliad i ddeddfu ar daro plant gael ei herio yn y Goruchaf Lys os yw’r cynnig i wahardd rhieni rhag taro eu plant yn cael ei dderbyn yn y Senedd heddiw.

Mae’r cynnig, sydd wedi ei roi gerbron y Cynulliad gan grŵp aml-bleidiol, wedi codi gwrychyn yr Aelod Seneddol Ceidwadol sy’n cadeirio Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

“Mae ceisio gwahardd rhieni rhag disgyblu trwy daro eu plant yn anghywir,” cyfaddefodd wrth Golwg 360, “ond mae hynny’n fater ar wahan i’r ddadl gyfreithiol.”

Pwerau

Wrth drafod y mater â Golwg 360, dywedodd David Davies, sy’n Aelod Seneddol dros Sir Fynwy, nad oedd yn credu fod gan y Cynulliad bwerau i wahardd rhieni rhag taro’u plant.

Mae’r sylw hyn yn mynd yn groes i’r cyngor y mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi rhoi i ddau o aelodau’r grŵp sy’n cynnig y newid.

Yn gynharach yn yr wythnos, ysgrifennodd Carwyn Jones at rai o aelodau’r grŵp yn dweud ei fod o’r farn fod gan weinidogion Llywodraeth Cymru bellach yr hawl i ddeddfu ar y mater.

“Dwi’n deall pam fyddai Carwyn Jones wedi cyrraedd y penderfyniad hynny,” meddai David Davies, “am nad oes eithriad penodol yn y paragraff perthnasol sy’n rhoi’r gallu i ddeddfu. Ond mae’r cyngor dwi wedi ei dderbyn yn dweud yn wahanol.”

Mae ymgais tebyg i ddeddfu ar y mater wedi ei wneud yn y gorffennol, ond fe dderbyniwyd nad oedd gan y Cynulliad gyfrifoldeb dros y mater bryd hynny yn dilyn ymgynghoriad cyfreithiol.

Yn ôl David Davies, mae’r Cynulliad nawr yn “ceisio cael pwerau mewn meysydd na fwriadwyd iddyn nhw.”

Mae David Davies wedi rhybuddio os bydd y bleidlais ar lawr y siambr heddiw yn mynd o blaid gwahardd rhieni rhag taro eu plant, y dylai’r mater fynd o flaen y Goruchaf Lys er mwyn penderfynu pa lywodraeth sydd â chyfrifoldeb dros y mater.