Fydd Radio Cymru ddim yn darlledu’n fyw o’r Ŵyl Cerdd Dant yn Llanelli ddechrau’r mis nesaf.

Ond fe ddaeth cadarnhad gan y Trefnydd, John Eifion, heddiw y bydd yna “raglen gynhwysfawr o bigion” ar y donfedd – ac na fydd y drefn newydd yn cael effaith ar yr wyl ei hun.

Mae’r wyl yn gyrchfan flynyddol ar gyfer cantorion, corau a phartïon sy’n canu i gyfeiliant y delyn; yn gystal ag i lefarwyr, dawnswyr a chantorion gwerin. Mae’n cael ei chynnal eleni yn ngwesty Parc y Strade, Llanelli, ar Dachwedd 9.

“Er y bydd y drefn ella’n effeithio ar arferion gwrando’r gynulleidfa, dw i ddim yn meddwl y bydd y newid yn cael effaith ar yr ŵyl ei hun,” meddai John Eifion wrth golwg360.

“Yr unig beth dw i wedi’i glywed ydi fydd ’na ddim darlledu byw… ac y byddan nhw’n darlledu rhaglen o bigion, mae’n debyg.

“Dw i’m yn siŵr be’ ydi amserlen hynny gynnon nhw…

“Dw i’m yn meddwl fydd o’n cael dim un effaith ar y cystadleuwyr, ond mi fydd o’n cael effaith ar y bobol fyddai’n arfer gwrando ar y cystadlu ac ati yn fyw ar y radio ar y dydd Sadwrn.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan BBC Cymru. Yn y cyfamser, fe fydd S4C yn darlledu’n fyw o Lanelli 2yp ac 8yh ddydd Sadwrn, Tachwedd 9.

Ymateb BBC Cymru 

“Eleni bydd BBC Radio Cymru yn adlewyrchu’r Ŵyl Gerdd Dant trwy rhaglen uchafbwyntiau cynwhysfawr,” meddai llefarydd.

“Rydym yn falch iawn o gefnogi’r ŵyl unwaith eto ac yn dymuno bob llwyddiant i’r trefnwyr.”