Mse sdrodfiad gan unno bwyllgorsu’r Cynulliad yn rhybuddio na ddylai gwasanaethau plismona gael eu defnyddio yn lle gwasanaethau iechyd meddwl.

Yn ôl y Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, mae cynnydd yn nifer y bobol sy’n cael eu cadw yn y ddalfa o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan elusennau iechyd meddwl a’r heddlu bod bron pob un o heddluoedd Cymru wedi gweld cynnydd mewn achosion o’r fath am fod gwasanaethau iechyd meddwl yn anghyson.

“Rydyn ni’n pryderu bod mwy a mwy o bobol yn cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl a bod diffyg gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned wedi arwain at ragor o bobol yn cael eu derbyn dro ar ôl tro, o dan adran 136, ar ôl cael eu rhyddhau,” meddai’Aelod Cynulliad, Dai Lloyd.

“Rydyn ni wedi clywed peth tystiolaeth sy’n peri pryder, ond rydyn ni hefyd wedi clywed am arferion rhagorol.

“Mae swyddogion rheng flaen yr heddlu yn darparu cymorth i unigolion sydd wedi bod drwy argyfwng iechyd meddwl, ond ni ddylai gwasanaethau plismona gael eu defnyddio yn lle gwasanaethau iechyd meddwl.

“Yn ogystal â darparu gwasanaethau cyson ledled Cymru, rhaid i ni sicrhau nad yw’r rheiny sydd mewn argyfwng yn mynd yn sownd mewn cylch a’u bod yn cael y driniaeth a’r gofal iawn.”