Mae canlyniadau ymchwil newydd yn awgrymu fod merched yng Nghymru yn fwy tebygol na bevhgyn o fynd i’r ysbyty ar ôl hunan-niweidio.

Mae’r astudiaeth, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn cynnwys 937,697 o bobol ifanc rhwng 10 a 24 oed, gyda 15,739 o’r rhain yn derbyn gofal iechyd ar gyfer hunan-niweidio.

Mae ymvhwilwyr wedi astudio data gan feddygon teulu, adrannau gofal brys a chlinigau cleifion allanol yyng Nghymru rhwng 2003 a 2015.

Maen nhw’n dangos fod ponol ifanc o ardaloedd tlawd mewn mwy o beryg, gyda chyfradd hunan-niweidio yno’n fwy na dwbwl y lefel mewn ardaloedd mwy cyfoethog.

Dros y cyfnod dan sylw, roedd y mwyafrif o bobol ifanc yn derbyn gwasanaethau gofal sylfaenol ond cynyddodd nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty wedi hynny.

Roedd cyfraddau hunan-niweidio ar eu huchaf ymhlith y grwp ord 15-19,  ond o 2011 gwelwyd y cynnydd mwyaf ymhlith y rhai rhwng 10 a 14 oed, yn enwedig merched.d

Roedd.nifer y erbyniadau i’r ysbyty ar gyfer y grŵp oedran 10-14 yn dyblu yn ystod y cyfnod ymhlith bechgyn a dynion ifanc, a mwy na dyblu ymhlith merched a menywod ifanc.

Roedd merched yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty, er bod 58% o’r rhai a oedd yn ceisio gofal o’r fath yn fechgyn a dynion ifanc.