Mae trigolion sy’n byw mewn parc preswyl yn Nhrefynwy wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd bod lefelau afonydd yn codi a dŵr llifogydd yn dod i mewn i’r safle.

Ar hyn o bryd mae Heddlu Gwent a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn cynghori trigolion ym mharc preswyl Riverside yn Nhrefynwy i adael eu cartrefi oherwydd y risg llifogydd, a lefelau afonydd yn codi.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn darparu cludiant o’r parc i Neuadd y Sir yng nghanol Trefynwy, sydd wedi’i sefydlu fel canolfan dros dro.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd llifogydd ar gyfer Afon Gwy yn Nhrefynwy ac mae lefel uchel yr afon wedi sbarduno ymateb gan y gwasnaethau brys i symud pobol o’r safle.

“Rydyn ni’n gweithio gyda Heddlu Gwent a Chyngor Sir Fynwy i symud pobl yn ddiogel o’r parc preswyl yn gyflym,” meddai Tim England, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru.

“Mae glaw trwm diweddar ar draws De Cymru yn achosi i lefel dwr yn Afon Gwy yn Nhrefynwy i godi a bydd yn parhau i godi yn ystod yr oriau nesaf.

“Rydym yn annog pobl i aros yn wyliadwrus ac edrych ar ein gwefan am rybuddion llifogydd yn eu hardaloedd a gwrando ar unrhyw gyngor a roddir ar ba gamau i’w cymryd. ”