Bu rhywfaint o oedi yn ystod y ffilmio ar gyfer y rhifyn o Wales Live y BBC neithiwr (nos Sul, Hydref 27) yn sgil ffrae ynghylch crys-T ac arno’r slogan, ‘Cofiwch Dryweryn’.

Fe gafodd y rhifyn ei ddarlledu yn fyw o Abertawe, lle cafodd y gynulleidfa o bobol leol gyfle i holi panel o siaradwyr a oedd yn cynnwys yr Aelodau Seneddol, Tonia Antoniazzi a Layla Moran; a’r Aelodau Cynulliad, Andrew R T Davies, Caroline Jones a Dai Lloyd.

Fe esgorodd Brexit ar sawl trafodaeth danllyd yn ystod y rhaglen, ond roedd trydan eisoes yn yr ystafell yn sgil un ffrae a ddigwyddodd ychydig cyn i’r camerâu ddechrau ffilmio, yn ôl un aelod o’r gynulleidfa.

Achos y gynnen, meddai Alex John, oedd crys-t o’i eiddo sy’n cyfeirio at yr ymgyrch i gofio am foddi Cwm Tryweryn yn ystod yr 1960au.

Roedd rhai o gefnogwyr Brexit ymhlith y gynulleidfa yn galw ar y BBC i’w orchymyn i guddio’r crys-t gan ei fod yn “ddatganiad gwleidyddol” ac, mewn protest, mae’n debyg y penderfynodd un ohonyn nhw ddatguddio ei grys-t ei hun ac arno gyfeiriad at y Blaid Brexit.

Bygwth gadael

“Dywedodd y person ar fy mwys y byddai’n gadael y stiwdio pe bai’r BBC yn gofyn i mi guddio’r slogan,” meddai Alex John wrth golwg360.

“Roedd ganddo wedyn gefnogaeth dwy res gyfan o’r gynulleidfa a oedd yn fodlon gadael hefyd. Dyna pryd y dywedodd aelodau o’r Blaid Brexit wrth y person mewn crys-t Plaid Brexit i droi’r crys fel ei fod y ffordd gywir.

“Achosodd hyn ffrae a thua hanner awr ar ôl ymchwilio i’r mater, dywedodd y cynhyrchydd fod fy nghrys-t i yn dderbyniol, ond bod angen [i grys-t y cefnogwr Plaid Brexit] gael ei droi drosodd.

“Doedden nhw ddim yn hapus, ac roedden nhw’n gweiddi hyd nes dechrau’r ffilmio.

“Doedden ni ddim yn teimlo bod ‘Cofiwch Dryweryn’ yn ddatganiad gwleidyddol. Mae’n atgoffâd o ddigwyddiad hanesyddol, yn debyg i’r pabïau oedd yn cael eu gwisgo gan y panelwyr a’r cyflwynwyr.”

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Rydym yn ystyried pob achlysur yn unigol, a neithiwr penderfynwyd gofyn i aelodau o’r gynulleidfa guddio crysau-t oedd yn hyrwyddo plaid wleidyddol benodol yn uniongyrchol.”