Yes Cymru yn targedu pobol ar eu ffordd i’r gwaith

Diweddarwyd am  
YES Cymru gyda'u baneri yng Nghaernarfon

YES Cymru gyda’u baneri yng Nghaernarfon

Llun: YES Cymru

Mae ymgyrchwyr Yes Cymru ar hyd a lled y wlad wedi bod yn chwifio baneri ar bobol ar eu ffordd i’w gwaith heddiw (dydd Llun, Hydref 28) gan eu hannog i ganu corn os ydyn nhw o blaid annibyniaeth.

Mae eu neges yn syml, meddai Cadeirydd Yes Cymru, Siôn Jobbins – “Dyw San Steffan ddim yn gweithio”.

“Mi ddaru ni benderfynu y byddai grwpiau lleol heddiw yn chwifio baneri arbennig rydym wedi eu creu sy’n dweud ‘Dyw San Steffan ddim yn gweithio’,” meddai Siôn Jobbins.

“R’yn ni eisiau i gymudwyr sy’n teithio i’r gwaith weld fod annibyniaeth yn opsiwn gwell na San Steffan a’u bod nhw wedyn yn sgwrsio yn eu lle gwaith am annibyniaeth.”

 Creu mudiad torfol i Gymru gyfan

Ymysg y grwpiau lleol Yes Cymru sydd wedi cymryd rhan mae Wrecsam, Llangollen,  Abertawe,  Caernarfon, Dolgellau a Chaerdydd.

“Mae’n dangos ein bod ni’n hyderus o fynd a’r neges o annibyniaeth allan,” meddai Siôn Jobbins.

“Beth sydd yn wych yw ein bod ni’n creu mudiad torfol dros annibyniaeth ymhob rhan o Gymru.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones