Mae Heddlu Dyfed Powys yn dweud eu bod wedi dod o hyd i gorff merch mewn adeilad gwag yn Noc Penfro.

Daeth swyddogion o hyd i’r corff yn yr adeilad tua 4.45yp ddoe (dydd Iau, Hydref 24) wrth chwilio am y ferch 16 oed sydd ar goll, Kianna Patton.

Nid yw’r corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol hyd yn hyn ond mae ei theulu wedi cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf.

Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.