Mae dau ddyn yn eu harddegau o Gaerdydd yn cael eu holi gan swyddogion ar ôl cael eu harestio gan heddlu gwrthderfysgaeth yn Kenya ger y ffin â Somalia.

Roedd y ddau, sy’n 17 a 18 oed, wedi diflannu o’u cartrefi yng Nghaerdydd wythnos ddiwethaf.

Does dim eglurhad eto pam bod y ddau yn ceisio cyrraedd Somalia. Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ddai wedi eu harestio tra’n croesi’r ffin i Somalia a bod uned wrthderfysgaeth heddlu Kenya yn ymchwilio i’r mater.

Dywedodd Aelod Seneddeol De Caerdydd a Phenarth Alun Michael bod y ddau wedi diflannu wythnos ddiwethaf gan achosi pryder mawr i’w teuluoedd.

Mae’n debyg bod un o gefndir Somali a’r llall o gefndir Pacistanaidd.

Dywedodd Alun Michael bod y gymuned yn teimlo rhyddhad bod y ddau wedi eu darganfod.

Mae Heddlu De Cymru wedi bod mewn cysylltiad â swyddogion yn Kenya i geisio darganfod pam bod y ddau wedi cael eu cadw yn y ddalfa.