Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddau ddyn gael eu trywanu yn Sir y Fflint neithiwr (nos Lun, Hydref 21).

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, digwyddodd yr ymosodiad ger y fynedfa i hen safle Corus Steel yn Garden City am tua 9Mae un dyn yn yr ysbyty wedi iddo dderbyn anafiadau difrifol.

Dyw’r heddlu ddim wedi dod o hyd i’r ddau berson – a ddisgrifir fel dynion croenddu – sy’n cael eu hamau o gyflawni’r ymosodiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ynglŷn â’r digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar unwaith, meddai llefarydd ar eu rhan.