Mae dyn, 27, wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd a phedwar mis ar ôl iddo bledio’n euog o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Bu farw Anna Roselyn Evans, 46, o Aberystwyth, yn yr ysbyty dros wythnos ar ôl i Jake Waterhouse o ardal Manceinion yrru car trwy bebyll ar faes gwersylla ger Bethel, Caernarfon ym mis Awst.

Clywodd y llys fod Jake Waterhouse a’i ffrind, Philip Eves, wedi bod yn yfed wisgi a lager ar faes gwersylla Rhyd y Galen cyn y digwyddiad yn ystod oriau mân y bore ar Awst 19.

Cafodd tri pherson arall eu hanafu yn ystod y digwyddiad.

Derbyniodd Jake Waterhous ei ddedfryd yn Llys y Goron y Wyddgrug heddiw (dydd Mawrth, Hydref 22). Mae hefyd wedi cael ei wahardd rhag gyrru am gyfnod o flwyddyn a deufis.

Anna Roselyn Evans

Bu farw Anna Roselyn Evans o’i hanafiadau yn yr ysbyty yn Stoke ar Awst 27, wedi iddi gael ei chludo yno o Ysbyty Gwynedd.

Roedd y Gymraes yn gweithio i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn Aberystwyth.

Mewn datganiad, dywedodd ei gŵr fod ei marwolaeth wedi cael effaith drom ar y teulu, gan gynnwys ei phlant, Lowri, 25, a Richard, 24.