Mae sefydlydd elusen iechyd meddwl ymhlith y Cymry a gafodd eu hanrhydeddu mewn seremoni wobrwyo ar gyfer y diwydiant amaeth.

Cafodd seremoni Gwobrau Ffermio Prydain gan gwmni AgriBriefing – sy’n gyfrifol am y papur, Farmers Guardian – ei chynnal yn Birmingham yr wythnos ddiwethaf (nos Iau, Hydref 17).

Bwriad y digwyddiad blynyddol yw dathlu cyfraniad nodedig gan unigolion i’r diwydiant amaeth yng ngwledydd Prydain.

Enillydd prif wobr y seremoni oedd Emma Picton-Jones o sir Benfro, a gafodd ei henwi’n ‘Arwr Ffermio’ am ei gweithgarwch gyda’r DPJ Foundation.

Fe sefydlodd y wraig fferm, 31, o ardal Clarbeston ger Hwlffordd, yr elusen yn 2016 er cof am ei diweddar ŵr, Daniel Picton-Jones, a fu farw trwy hunanladdiad.

Iechyd meddwl

Mae’r DPJ Foundation yn arbenigo mewn helpu pobol o fewn y gymuned wledig sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl.

Yn ddiweddar, derbyniodd bron £50,000 o nawdd gan Lywodraeth Cymru er mwyn ehangu ei gwasanaethau yng Nghymru – yn enwedig yn ardaloedd y gogledd.

“Mae cael cydnabyddiaeth gan y gymuned ffermio yn teimlo’n ffantastig,” meddai Emma Picton-Jones. “I fi, mae’n gyfle gwych i iechyd meddwl fod ar flaen meddwl y gymuned.

“Iechyd meddwl yw un o’r prif heriau o fewn ein sector a dw i’n gobeithio y bydd hyn yn help wrth gynyddu’r ymwybyddiaeth am yr angen i ofalu am eich hiechyd meddwl ac annog eraill sy’n dioddef i chwilio am gymorth.”

Enillwyr eraill

Ymhlith y Cymry eraill a serennodd yng Ngwobrau Ffermio Prydain oedd y ffermwr ifanc o sir Benfro, Aled Thomas, a gafodd ei enwi yn ‘Fyfyriwr Amaeth y Flwyddyn’ wedi iddo gwblhau ei gwrs gradd ym Mhrifysgol Harper Adams.

Cafodd Gareth Davies a Phil Corke o Fannau Brycheiniog – ‘Arloeswyr Peiriannau y Flwyddyn’ – eu hanrhydeddu am eu dyfais, y Bison Lock, sy’n diogelu beiciau cwad rhag lladron.