Bydd cyflogau athrawon yng Nghymru sydd newydd ddechrau yn eu swyddi yn cynyddu 5%, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Cafodd y grym dros gyflogau ac amodau athrawon ei ddatganoli i Fae Caerdydd fis Medi y llynedd.

Bydd isafswm ac uchafswm pob ystod band cyflog a lwfans arall i athrawon yn cynyddu 2.75% hefyd yn dilyn adolygiad gan Gorff Adolygu Cyflogau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £12.8m yn cael ei ddarparu i gynghorau lleol er mwyn cefnogi’r penderfyniad.

‘Denu mwy o bobol at y proffesiwn’

“Mae cyhoeddiad heddiw yn dangos mantais rhoi’r cyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru am y pwerau hyn,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Wrth fynd ati am y tro cyntaf i bennu cyflog athrawon, rydym wedi dilyn cwys gwahanol i Loegr drwy sicrhau y bydd cyflog cychwynnol athrawon yng Nghymru yn uwch.

“Bydd hyn yn helpu i hyrwyddo addysgu fel proffesiwn sy’n denu graddedigion a’r rheiny sydd am newid gyrfa.

“Ochr yn ochr â’n diwygiadau i ddysgu proffesiynol, y cwricwlwm a hyfforddiant cychwynnol athrawon, bydd yn helpu i annog yr athrawon o’r safon uchaf i ymuno â’r proffesiwn yma yng Nghymru.”