Mae angen “herio a thynnu sylw” at y gwahaniaethu ar sail oedran mae pobol hŷn yn ei wynebu bob dydd, yn ôl Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru.

Mae swyddfa Heléna Herklots wedi lansio ymgyrch newydd er mwyn codi ymwybyddiaeth am sut mae gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar bobol hŷn a chymdeithas.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd pobol hŷn a’r cyhoedd yn cael eu gofyn i rannu enghreifftiau o wahaniaethu ar sail oedran y maen nhw wedi dod ar eu traws.

Mae canllaw gwybodaeth wedi ei ddatblygu hefyd – o’r enw ‘Gweithredu yn Erbyn Gwahaniaethu ar Sail Oedran’ – a fydd yn cyflwyno cyfres o weithdai i helpu pobol i adnabod gwahaniaethu ar sail oedran er mwyn eu herio.

Herio’r steroteipiau

“Yn aml iawn mae mynd yn hŷn yn cael ei gyflwyno fel rhywbeth i’w ofni yn hytrach na’i ddathlu,” meddai Heléna Herklots.

“Mae hyn yn arwain at gymdeithas lle rydyn ni’n gweld gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithle, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn gwasanaethau cyhoeddus allweddol eraill, yn ogystal ag ar y cyfryngau ac ym maes hysbysebu.   

 “Mae corff cynyddol o ymchwil yn dangos yr holl ffyrdd y mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cael effaith negatif ar bobl hŷn, gan effeithio ar eu hiechyd corfforol a meddyliol, gwella o salwch, lefelau eithrio cymdeithasol a disgwyliad oes hyd yn oed.

“Felly mae mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran yn hanfodol.”