Mae Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio defnyddwyr cyffuriau yn ardal Wrecsam am gyflenwad o’r cyffur Mamba, sef canabis synthetig, sydd wedi’i lygru ac yn cael ei werthu’n lleol.

Daw’r rhybudd ar ôl nifer o achosion o ddefnyddwyr yn mynd yn sâl ar ôl ei ddefnyddio.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Nick Evans ei fod yn bosib bod y cyflenwad arbennig hwn yn “beryglus iawn” ac maen nhw’n rhybuddio na ddylai unrhyw un ei ddefnyddio a chael gwared ohono’n ddiogel.

“Rydym yn cynghori pob defnyddiwr sy’n gaeth i gyffuriau i geisio cael cymorth gan wasanaethau cyffuriau lleol ac rydym yn annog unrhyw un sy’n teimlo’n sâl ar ôl cymryd y sylwedd hwn i geisio cymorth meddygol brys,” meddai.