“Dylem fod wedi gadael flwyddyn yn ôl” – Dyna farn cynghorydd o Flaenau Gwent am Brexit.

Yn siarad â golwg360 y llynedd, dywedodd Gareth Leslie Davies fod y pentref mae’n ei gynrychioli, Y Cwm, yn awyddus iawn i adael yr undeb

Ond dros flwyddyn yn ddiweddarach mae’r Cymoedd yn dal i aros, ac yn sgil hyn mae brwdfrydedd y cynghorydd tros Brexit wedi cynyddu, nid lleihau.

“Pe bawn yn cael pleidlais arall heddiw byddai Blaenau Gwent yn dal i bleidleisio o blaid gadael. Dw i wir yn credu hynny,” meddai wrth golwg360.

“Mae gen i lawer o ffrindiau yn Ffrainc. Maen nhw 100% o blaid ni’n gadael, ond maen nhw’n aros i weld beth wnawn ni. Dydyn nhw ddim yn dangos hynny ar y teledu.

“Dw i ddim yn credu y bydd Ffrainc a’r Almaen yn bell ar ein holau. Dw i wir yn credu hynny.”

“Pobol browd”

O holl awdurdodau lleol Cymru, ardal Blaenau Gwent oedd fwyaf cefnogol i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ystod refferendwm 2016, gyda 62% yn pleidleisio o blaid ymadael.

Roedd Brexit i fod i ddigwydd yn wreiddiol ar Fawrth 29 y llynedd, ond ddaeth dim byd o hynny, a bellach mae’r cynghorydd yn eithaf diamynedd. 

“Beth am fwrw ati,” meddai Gareth Leslie Davies. “Beth am wneud rhywbeth oni bai am ffraeo, a gwario, a theithio mas yno â chap yn ein llaw?

“Dydyn nhw ddim eisiau ni’n cardota. Rydym ni wastad wedi bod yn bobol browd.”