Mae’r gwaith o symud swyddfeydd ac adrannau BBC Cymru o Landaf i ganol y brifddinas yn dechrau heddiw (dydd Llun, Hydref 21).

Bydd oddeutu 1,000 o staff cynhyrchu a chynorthwyol yn symud i’r adeilad newydd yn Sgwâr Canolog, Caerdydd gyda’r gweddill yn symud yno yn y gwanwyn.

Ymhlith y staff hynny mae deg o brentisiaid, a fydd yn derbyn hyfforddiant mewn cyfleusterau newydd sbon ac sydd wedi cael y cyfle eisoes i ymweld â’r safle newydd.

Bydd cyfle maes o law i’r cyhoedd gael taith o amgylch yr adeilad, a fydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan S4C a chynhyrchwyr annibynnol.

“Mae popeth am Sgwâr Canolog yn ymwneud â bod yn agored,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Mae darlledu a’r cyfryngau yn newid o flaen ein llygaid.

“A’r dyddiau hyn, mae ein cynulleidfaoedd yn disgwyl cael profiad personol.

“Rydym wedi dylunio’r adeilad hwn i adael y golau i mewn – nid ei gau allan – ac mae’r lleoliad gwych yn golygu y byddwn yn fwy hygyrch.

“Er yr holl atgofion melys yn Llandaf, mae Sgwâr Canolog yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i BBC Cymru fod yn fwy agored.

“Mae’r prentisiaid hyn yn cynrychioli dyfodol ein diwydiannau creadigol – yn angerddol, amrywiol ac yn barod i ddweud eu straeon eu hunain.”