Mae penderfyniad adeiladwr i adael ei waith ddeg mis yn ôl a throi at gynhyrchu medd yn dwyn ffrwyth, wrth i’w gynnyrch gael ei werthu’n eang yng Nghymru a thu hwnt.

Cafodd cwmni Matt Newell, Wye Valley Meadery, ei sefydlu yng Nghas-gwent ym mis Ionawr.

Fe benderfynodd e droi ei ddiddordeb mewn gwenyn yn fusnes ar ôl gweld ei yrfa fel adeiladwr yn mynd ar i lawr.

Mae ganddo fe 130 o gychod gwenyn, ac mae’n cynhyrchu medd 5% gyda chymorth Princes Trust Cymru.

Mae’r medd yn cael ei werthu mewn 25 o siopau yng Nghymru a Lloegr, ac mae gan y cwmni’r gallu i fragu hyd at 3,450 litr o’i gymharu â 300 pan gafodd y cwmni ei sefydlu.

Mae’r ddiod hynafol yn profi adfywiad diolch i alw cynyddol am gynnyrch di-glwten ac organig.

Effaith Brexit

Mae Brexit yn achosi ansicrwydd i’r cwmni, ond mae’n chwilio am gyfleoedd i werthu’r cynnyrch ledled Ewrop.

Mae poteli’r cwmni’n cael eu prynu o Ffrainc a’r burum o Wlad Belg.

“Rydyn ni’n siarad â phobol am allforio i Ewrop a does neb yn sicr a fydd llongau’n cael eu dal i fyny yn y Sianel am wythnosau ar y tro, felly mae’n broblem fawr,” meddai.

“Mae hi’r un fath ym mhob man.

“Mae pobol yn dal yn ôl rhag buddsoddi mewn pob math o brosiectau adeiladu, felly dyna i raddau oedd wedi fy ysgogi i symud at hyn.”

Mae eisoes wedi ennill sawl gwobr.