Mae dyn o’r de orllewin wedi ei garcharu am 40 mlynedd yn Llys y Goron Abertawe.

Nid yw’r dyn yn cael ei enwi, a hynny er mwyn peidio datgelu enwau ei ferched.

Fe gafwyd y dyn yn euog o dreisio dwy o’i ferched.

“Roedd eich ymddygiad yn gwbl ddieflig,” meddai’r Barnwr Paul Thomas wrth y dihiryn.

Roedd y dyn hefyd wedi trefnu bod ei ffrind yn treisio un o’i ferched, tra’r oedd y tad yn gwylio.

Dangosodd profion DNA ei fod wedi cael o leiaf chwech o blant gydag un o’i ferched, a’i fod wedi mynd yn ei flaen i dreisio un o’r plant hynny.