Mae cynnal gwyliau ffilm a theledu yng Nghymru yn hanfodol, yn ôl cynhyrchydd y gyfres Bang a gafodd ei dangos ar S4C a’r BBC.

Roedd Roger Williams yn cyfrannu at Ŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru yng Nghastell-nedd yn ddiweddar, lle cafodd gyfle i drafod y grefft o ysgrifennu a chynhyrchu ar gyfer y sgrin a’i wreiddiau ym myd y theatr a radio cyn troi at deledu.

Datblygodd ei grefft, meddai, drwy blethu ei ddiddordeb ym myd y teulu a datblygu cymeriadau ac ar ddechrau ei yrfa roedd mynd i wyliau yn gyfle i feithrin ei sgiliau.

Bwriad yr ŵyl yng Nghastell-nedd oedd rhoi’r cyfle i awduron newydd a phrofiadol ddangos eu gwaith i bobol eraill o fewn y diwydiant.

“R’yn ni’n creu ffilmiau er mwyn i bobol eu gwylio nhw,” meddai Roger Williams, “felly mae eisiau creu’r cyfleoedd i bobol ddangos eu gwaith a rhoi’r cyfle iddyn nhw gael adborth yn dilyn y dangosiadau.

“R’yn ni’n gallu rhoi ein gwaith ni ar YouTube ac yn y blaen, ond dyw e ddim cystal â bod yn yr un stafell â chynulleidfa sy’n ymateb i’r stori ac yn chwerthin ac yn llefain. A hefyd, mae’n wych fod cyfle i bobol greu cysylltiadau gyda phobol eraill sy’n gweithio yn y diwydiant.

“Mae hynny’n digwydd mewn gŵyliau fel hon, lle bydd rhywun yn gweld darn ac yn teimlo’i fod e’n arbennig o dda ac yn mynd i chwilio am bwy bynnag sy’n gyfrifol am y gwaith, cynnal sgwrs â phwy a ŵyr, efallai daw rhywbeth o’r cyfarfod hwnnw sy’n arwain at brosiect newydd.”

“Pobol yn gwerthfawrogi” drama deledu Bang am ei bod yn gyfuniad o Gymraeg a Saesneg – mwy gan Roger Williams yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg