Mae Prif Weinidog Cymru wedi beirniadu’r fargen Brexit newydd ac yn dweud nad yw hi’n “gwneud dim i amddiffyn buddiannau Cymru”.
Yn ôl Mark Drakeford, mae ganddo bryder na fyddai’r fargen, sy’n ffrwyth trafodaethau dwys rhwng gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd, yn “diogelu ein heconomi a’n swyddi”.
Nid yw'r cytundeb hwn yn gwneud dim i amddiffyn buddiannau Cymru; heb sôn am ddiogelu ein heconomi a'n swyddi.
Bydd yn ein rhwygo allan o'r farchnad sengl a'r undeb tollau, ac yn creu rhwystrau newydd i fasnachu a fyddai'n gwneud Cymru'n dlotach.https://t.co/zzmLcwPAhr
— Mark Drakeford (@fmwales) October 17, 2019
Daeth cadarnhad ddoe (dydd Iau, Hydref 17) bod Boris Johnson wedi llwyddo i daro bargen gyda’r Undeb Ewropeaidd yn dilyn dyddiau o drafodaethau yn Llundain a Brwsel.
Mae Prif Weinidog Prydain yn ei disgrifio’n “fargen newydd sy’n cymryd grym yn ôl”, tra bo Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, yn dweud ei bod yn fargen “deg a chytbwys” ar gyfer gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae disgwyl iddi gael ei chyflwyno gerbron Aelodau Seneddol mewn sesiwn arbennig yn San Steffan yfory (dydd Sadwrn, Hydref 19), ond mae gan Boris Johnson fynydd i’w ddringo os yw’r fargen am gael ei chymeradwyo.
Mae plaid y DUP eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n cefnogi’r fargen oherwydd materion yn ymwneud â Gogledd Iwerddon.
Mae disgwyl y bydd Boris Johnson yn ceisio cael cefnogaeth Brexitwyr caled ei blaid, y grŵp o gyn-Aelodau Seneddol Ceidwadol, a rhai Aelodau Seneddol Llafur er mwyn gwthio’r fargen drwy’r Senedd.