Mae Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) wedi cyhoeddi bod Brian Thomas wedi camu o’r neilltu o swydd Dirprwy Lywydd.

Bu’r ffermwr o Sir Benfro yn y swydd oddi ar 2015, a chyn hynny bu’n is-lywydd yr undeb ac yn gadeirydd cangen yn ei sir enedigol.

Yn ystod argyfwng clefyd y BSE yn ystod yr 1990au, bu’n flaenllaw yn yr ymgyrch yn erbyn mewnforio cig eidion israddol i Gymru.

Roedd hefyd yn arweinydd y grŵp o ffermwyr a aeth i stondin Tesco yn y Sioe Fawr yn 1997 er mwyn cwyno am y ffordd yr oedden nhw’n trin y diwydiant ar y pryd. Yn ddiweddarach, bu’n rhan o’r frwydr yn erbyn y diciau.

Yn ystod cyfarfod o Uwch-Gyngor yr FUW yn Aberystwyth ddoe (dydd Mercher, Hydref 16), dywedodd y Llywydd, Glyn Roberts, fod “y diwydiant yng Nghymru wedi elwa’n fawr o ganlyniad i lobïo Brian.”

Mae’r ffermwr o Landeilo, Ian Rickman, wedi cael ei ethol yn olynydd i Brian Thomas fel y Dirprwy Lywydd.