Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yng Ngheredigion ddydd Gwener (Hydref 11).

Fe ddigwyddodd ar ffordd A484 rhwng Aberteifi a Llechryd pan darodd Citroen Saxo arian a SsangYong du yn erbyn ei gilydd am oddeutu 8.20yh.

Cafodd tri allan o’r pedwar o bobol yn y Citroen Saxo eu hanafu, ac mae un ohonyn nhw’n dal yn yr ysbyty yn cael triniaeth am anafiadau difrifol.

Cafodd gyrrwr a theithiwr yn y SsangYong fan anafiadau.

Bu’n rhaid cau’r ffordd am nifer o oriau.