Bethan Ruth Roberts yw cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae’n olynu Osian Rhys, sydd wedi bod yn y swydd am flwyddyn.

Cafodd ei geni yn Birmingham, ond symudodd i Ddolgellau’n bump oed a chael ei haddysg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor cyn dilyn gradd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae hi’n byw yn Aberystwyth ar hyn o bryd.

“Fy nghanolbwynt i fel Cadeirydd fydd i bontio pobol, tynnu pobol i mewn, a dod â ni ynghyd efallai gyda grwpiau newydd i agor deialog er mwyn dysgu gan bobol eraill, ac i bobol eraill allu cymryd ysbrydoliaeth gan y Gymdeithas hefyd,” meddai ar ôl cael ei hethol.

Mae’n dweud ei bod hi’n credu’n gryf mewn “cynwysoldeb” er mwyn “denu cenhedlaeth newydd o aelodau – nid o reidrwydd o oedran penodol ond drwy estyn allan yn fwy”.

‘Argyfwng’

Wrth amlinellu ei blaenoriaethau, mae’n nodi bod yr ymgyrch ddarlledu’n “argyfwng” i’r mudiad ar hyn o bryd.

“Mae argyfwng gennym ni ym maes darlledu yng Nghymru gyda thros 70% o gyfryngau Cymru yn dod o Lundain – mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar ddemocratiaeth – ‘sdim syndod nad yw pobl yn deall Brecsit neu ddatganoli hyd yn oed, mae’n frwydr i geisio cael unrhyw sôn am Gymru o gwbl heb sôn am gael y trafodaethau ehangach am beth sydd angen arnom i ffynnu,” meddai.

“Mae’n bryd i ni estyn allan o fewn ein cymunedau, agor y deialog, creu y pyllau trafod ymysg ein gilydd.

“Bydd eleni yn flwyddyn dyngedfennol i’r ymgyrch dros ddatganoli pwerau darlledu a chyfathrebu i Gymru, ac rwy’n edrych ymlaen i fod yn chwarae rôl allweddol wrth ymgyrchu ochr yn ochr gyda’r grŵp digidol a’r aelodau sy’n gwrthod talu eu trwyddedau.”