Mae cyn-filwr oedd wedi gwasanaethu yn Affganistan yn dweud nad oedd arwydd o wres eithriadol ar y diwrnod y bu farw milwr ym Mannau Brycheiniog yn 2016.

Mae’r Sarjant Carl McAvoy wedi bod yn rhoi tystiolaeth i’r cwest i farwolaeth Joshua Hoole, 26 oed o Lockerbie, a fu farw o fewn awr ar ôl cael ei daro’n wael yn ystod ymarferion milwrol ar gyfer yr SAS. 

Mae’r cwest eisoes wedi clywed fod milwyr yn ymwybodol mai hwn oedd diwrnod poetha’r flwyddyn a bod amser gorymdaith wedi cael ei newid yn sgil y gwres.

Roedd disgwyl i swyddogion adrodd am unrhyw achosion o filwyr yn tynnu’n ôl o ganlyniad i’r gwres, er mwyn penderfynu a ddylai’r ymarferion fynd yn eu blaenau.

Roedd y Sarjant Carl McAvoy yn un o’r rhai oedd yn cyfarwyddo’r ymarferion, ond doedd e ddim yn gymwys i arwain yr ochr feddygol.

Mae’n dweud iddo weld y Corporal Anasa Matau ar lawr yn derbyn triniaeth, “yn dal ei ffêr ac yn siarad”, ond mae’n dweud nad oedd yn “ymddangos yn sâl”.

Ond fe ddywedodd y milwr yr wythnos ddiwethaf iddo dynnu’n ôl yn sgil y gwres a blinder dwys, a chafodd hynny ei gadarnhau gan nyrs, a ddywedodd fod ganddo fe “symtomau amlwg iawn”.

Mae’r Sarjant Carl McAvoy yn amddiffyn ei safiad, ac yn dweud bod ei “ddisgrifiad ohono’n gywir”.

Mae’n gwadu iddo weld y milwr “yn flinedig, yn ben-ysgafn, yn ddryslyd ac yn gwegian”.

Mae’n dweud bod milwr arall, y Corporal George Knight “yn edrych fel pe bai e wedi dringo bryn mawr”, ond mae’n dweud iddo “ystyried ei fod yn dioddef o flinder gwres” ond nad oedd yn gallu cadarnhau hynny.

Mae’r cwest yn parhau.