Mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i dorri eu hallyriadau carbon am yr ail flwyddyn yn olynol, yn ôl darogan adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw.

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi tynnu sylw at ddatblygiadau mawr gan Lywodraeth Cymru wrth leihau allyriadau carbon, ac wrth baratoi ar gyfer newid hinsawdd.

Blwyddyn yn ôl, fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru strategaeth er mwyn cyflawni eu targedau i ostwng allyriadau carbon o 3% bob blwyddyn dros y degawd nesaf.

Mae adroddiad y Pwyllgor wedi bod yn ystyried y data diweddaraf ar lefel y carbon sy’n cael ei ryddhau, ac wedi dod i’r casgliad fod y cyfanswm yn 2009 wedi disgyn 14% oherwydd y dirwasgiad. Maen nhw hefyd yn darogan fod yr un peth yn wir ar gyfer 2010 oherwydd effaith y gaeaf oer oedd wedi achosi problemau teithio i bobl.

Yn ôl y Llywodraeth, mae gwelliannau wedi eu gwneud trwy raglenni effeithlonrwydd ynni Cymru, sydd “ar y blaen” i’r rhai sydd gan Brydain. Mae’r rhaglenni hyn yn ymwneud â gwell inswleiddio mewn tai.

Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud eu bod nhw wedi gwella’r sefyllfa trwy gyfuno targedau i dorri gwastraff â deddfwriaethau amgylcheddol, ac wedi gwneud camau mawr wrth wella lefelau ail-gylchu a lleihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i gladdfeydd sbwriel.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, John Griffiths, “Mae’r adroddiad yn hynod gadarnhaol am ein hymdrechion i gynyddu effeithlonrwydd egni ac i wella rheoli gwastraff.”

Edrych tua’r dyfodol

Mae’r Pwyllgor wedi gwneud nifer o argymhellion ar gyfer torri allyriadau carbon, gan gynnwys edrych ar allyriadau carbon ystad y Llywodraeth ei hun.

Yn ôl David Kennedy, Prif Weithredwr y Pwyllgor, mae’r adroddiad yn dangos “gwelliannau da eleni wrth osod targedau uchelgeisiol,” ond mae’n dweud bod angen adeiladu ar hyn.

“Mae angen adnabod cyfleon pellach a rhoi polisiau newydd mewn grym er mwyn torri lefelau carbon yn yr awyr yn gynt a pharatoi at newid hinsawdd.”