Mae dyn wedi cael ei achub oddi ar greigiau ar ôl bod yn pysgota yn afon Ogwr.

Aeth y dyn i’r dŵr ac fe fu’n rhaid galw’r bad achub.

Aeth dau fad achub, hofrennydd ac ambiwlans i leoliad y digwyddiad, ac fe gafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty.