Yn hytrach nag “ildio i iaith cenedlaetholdeb” a chefnogi annibyniaeth, dylai Llywodraeth Cymru gynnig syniadau ei hun am ddyfodol y Deyrnas Unedig.

Dyna y mae disgwyl i Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru ei ddweud heno (nos Iau,  Hydref 10) wrth lansio dogfen Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y Deyrnas Unedig.

 Brexit yn rhoi straen ar y Deyrnas Unedig ac wrth i ralïau annibyniaeth ddenu miloedd led y wlad, mae sawl un o Aelodau Cynulliad y Blaid Lafur eisoes wedi lleisio’u pryderon am ddyfodol yr undeb.

Ac wrth siarad ym Merthyr Tudful heno, mae Mark Drakeford yn gobeithio lleddfu’r gofidion yma gan gynnig gweledigaeth sy’n wfftio safiadau cenedlaetholwyr ynghyd a Thorïaid San Steffan.

“Ailwampio” y Deyrnas Unedig

“Os nad ydyn ni am ildio i iaith cenedlaetholdeb; os nad ydyn ni am gerdded mewn trwmgwsg i annibyniaeth ein hunain, rhaid i ni gymryd y cyfrifoldeb lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hun am wneud hynny,” mi fydd yn dweud yn ddiweddarach.

“Rhaid inni feddwl o ddifrif am y ffyrdd sydd ar gael i’r Deyrnas Unedig ailwampio ei hun er mwyn iddi oroesi.

“Rhaid inni gynnal trafodaeth ar fyrder er mwyn sicrhau bod cyfansoddiad y Deyrnas Unedig yn cael ei ddiwygio’n sylfaenol a gweithio tuag at setliad tecach, sy’n fwy cyfiawn a chynaliadwy.”

Cynigion

Mae’r ddogfen yn galw am berthynas cyfartal rhwng llywodraethau’r Deyrnas Unedig, ac mae’n dweud y dylai bod gan y llywodraethau datganoledig mwy o ddylanwad ar bolisïau’r undeb.

Ymhlith syniadau eraill, mae hefyd yn galw am Oruchaf Lys sy’n adlewyrchu natur yr undeb – hynny yw, dylai’n wastad fod yna o leiaf un barnwr sydd â chysylltiad â Chymru.