Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru newydd gadarnhau ei bod wedi prynu un o luniau Salem “ar ran y genedl”.

Fe brynwyd y llun cyntaf gan Curnow Vosper yn wreiddiol gan ddiwydiannwr o’r enw William Hesketh Lever, a defnyddiwyd y ddelwedd mewn ymgyrch hyrwyddo eang gan Sunlight Soap, cwmni’r Lever Brothers’.

Cafodd yr ail fersiwn hwn  ei beintio ar gyfer brawd-yng-nghyfraith yr artist, Frank James. Mae’n darlunio golygfa yng Nghapel Salem, Cefncymerau, Llanbedr ger Harlech, gyda Siân Owen yn ganolog i’r paentiad.

“Rydan ni mor falch o fod wedi llwyddo i brynu’r llun eiconig hwn o’r oedfa a Siân Owen a’r diafol yn ei siôl,” meddai Pedr ap Llwyd Prif Weithredwr a Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol.

“Mae’r gwaith enigmatig hwn o eiddo Sydney Curnow Vosper yn un o drysorau’r genedl ac rwy’n edrych ymlaen at cyfleoedd i’w rhannu â Chymru a thu hwnt.  Bydd yn bleser medru ei harddangos a mynd â fo allan i’r gymuned, fel rhan o’n  rhaglenni Campwaith Mewn Ysgolion.”