Dyw Ann Clwyd ddim yn gwadu bod yna demtasiwn i aros yn Aelod Seneddol, ac mae’n awgrymu bod rhan fach ohoni yn difaru gwneud y penderfyniad i ymddeol.

Ond mae Aelod Seneddol Llafur tros Gwm Cynon ers 1984 – a fu’n Aelod o Senedd Ewrop cyn hynny – yn dweud na fydd hi’n newid ei meddwl bellach.

“Dw i’n meddwl ei bod hi braidd yn hwyr y tro hyn i mi newid fy meddwl,” meddai wrth golwg360.

Er nad oes sicrwydd pryd fydd yr etholiad cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal, mae sïon yn dew y gall un gael ei alw o fewn yr wythnosau nesaf, a bod hynny’n dibynnu ar yr hyn fydd yn digwydd o ran trafodaethau Brexit.

Mater sy’n destun tristwch i’r Aelod Seneddol Llafur yw’r syniad y bydd hi, fwy na thebyg, yn ildio’r awenau cyn cwblhau popeth yr hoffai ei gyflawni tros ei hetholaeth.

“Mae gen i restr hir o bethau dw i eisiau eu cyflawni o hyd,” meddai. “A dyw hi byth yn dod i ben yn anffodus. Mae mwy o bethau yn mynd ar y rhestr. Dyna’r pethau dw i eisiau eu cyflawni yn yr etholaeth.