Mae rhieni’n cael eu hannog i gymryd gofal gyda diodydd poeth yn rhan o ymgyrch ledled gwledydd Prydain i fynd i’r afael â’r achos mwyaf cyffredin o losgiadau plant.

Mae ymgyrch SafeTea yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd gan ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Bryste a Phrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae wedi’i brofi mewn cydweithrediad â staff blynyddoedd cynnar a rhieni plant ifanc.

Mae ymchwil yn dangos bodd dros 50,000 o blant yng ngwedydd Prydain yn mynd i’r ysbyty gyda llosgiadau bob blwyddyn, ac mai plant o dan bump oed oedd y rhan fwyaf ohonyn nhw. Digwyddiadau gyda diodydd poeth sydd i’w cyfrif am 60% o’r plant o dan dair oed sy’n mynd i’r ysbyty gyda llosgiadau. Mae hyn yn cyfateb i 30 o blant ifanc bob dydd.

“Mae miloedd o achosion o ddamweiniau sgaldio gyda diodydd poeth yn digwydd bob blwyddyn a dim ond rhai camau syml sydd eu hangen i atal anafiadau a allai fod yn rhai difrifol dros ben,” meddai yr Athro Alison Kemp o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sy’n arwain yr ymchwil.

“Gall llosgiadau o ddiodydd poeth achosi niwed difrifol i groen plentyn ifanc gan roi creithiau parhaol a golygu bod angen iddyn nhw gael triniaeth feddygol barhaus nes y byddan nhw yn oedolion. Dyna pam ein bod yn atgoffa rhieni i gadw diodydd poeth ymhell o’u cyrraedd.”