Mae yna “dipyn mwy i’w wneud” cyn y gall gwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf gael eu dynodi’n ddiogel ar gyfer mamau a babanod, yn ôl adroddiad.

Cafodd panel annibynnol ei sefydlu ar ôl i ymchwiliad ddechrau’r flwyddyn ddod o hyd i gyfres o fethiannau yn safon y gofal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant ac Ysbyty’r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful.

Cyhoeddodd y panel yn ei adroddiad chwarterol heddiw (dydd Mawrth, Hydref 8) fod y cyfanswm o achosion sy’n cael ei ystyried ganddo bellach wedi treblu i tua 150 sy’n deillio o’r cyfnod 2016-2018.

Mae’r achosion hynny yn cynnwys y 43 achos a oedd eisoes yn cael eu hystyried gan y panel fel rhai difrifol.

Ond er bod y panel yn nodi bod gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf wedi gwneud cynnydd yn y misoedd diwethaf, mae adborth gan staff a chleifion yn awgrymu bod angen gwneud rhagor i fynd i’r afael â’r problemau a nodwyd mewn adroddiad blaenorol.

Mesurau arbennig

Fe gafodd y bwrdd iechyd ei wneud yn destun mesurau arbennig ym mis Ebrill ar ôl i adroddiad gan arbenigwyr iechyd nodi bod cleifion mewn peryg a bod staff “o dan bwysau sylweddol”.

Cafodd lefelau staffio isel, diffyg cefnogaeth i ddoctoriaid iau ac anymwybyddiaeth o ganllawiau eu beirniadu gan yr un adroddiad hefyd.

Wrth ymateb i adroddiad y panel annibynnol heddiw, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ei fod yn croesawu’r cynnydd, ond yn cydnabod bod yna “waith sylweddol” i’w wneud eto.

“Yn amlwg mae llawer iawn i’w wneud eto i fynd i’r afael â’r materion a’r pryderon sylfaenol a ddaeth i’r amlwg yn y bwrdd iechyd,” meddai Vaughan Gething.

“Rwy’n gwerthfawrogi bod hwn wedi bod yn amser anodd iawn i’r holl staff dan sylw.”

Beirniadu Llywodraeth Cymru

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau na fydd Cwm Taf yn “gwanhau” o dan fesurau arbennig fel Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

“Mae’n ddyfarniad damniol ar Lywodraeth Lafur Cymru bod bwrdd iechyd sydd wedi bod yn ei gofal am y pedair mlynedd diwethaf wedi gweld y cynnydd mwyaf yn nifer y llawdriniaethau sy’n cael eu gohirio,” meddai arweinydd y blaid, Paul Davies.

“Mae’n amlwg bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi methu â chynnal bwrdd iechyd gogledd Cymru, ac mae’n bryderus clywed ei bod hi’n ei chael yn anodd cael gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf allan o fesurau arbennig.”