Bydd gwefan newydd yn cael ei lansio yng Nghaerdydd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 8) gyda’r nod o helpu pobol a sefydliadau i ddod o hyd i ystadegau am drefi a chymunedau yng Nghymru.

Mae ‘Deall Lleoedd Cymru’ yn wefan ddwyieithog sy’n darparu gwybodaeth am fwy na 300 o leoedd yng Nghymru sydd â dros 2,000 o drigolion.

Bydd y wefan yn darparu ystadegau am ystod eang o bynciau, gan gynnwys nifer y lleoedd ysgol, siopau ac elusennau yn yr ardal, cyflogaeth, pellteroedd teithio, hunaniaeth genedlaethol a niferoedd siaradwyr Cymraeg.

Yn ogystal ag archwilio data am leoedd unigol, bydd y wefan hefyd yn caniatáu i bobol allu cymharu trefi a dysgu am berthynas eu lle â chymunedau eraill ledled Cymru.

‘Deall ardaloedd yn well’

Yn cydlynu’r wefan mae’r Sefydliad Materion Cymreig a’i nod yw “cynorthwyo cynghorau tref, grwpiau cymunedau, elusennau a llunwyr polisi i greu gwasanaethau sy’n gweddu i gymunedau unigol ledled y wlad.”

Bydd hefyd yn “caniatáu i bobol a diddordeb yn eu tref ddysgu mwy am eu hardal,” meddai’r felin drafod.

“Yn rhy aml, mae cymunedau mewn trefi’n cael eu diystyru gan bolisi cyhoeddus ac mae hyn yn aml oherwydd diffyg data ar y lefel honno,” meddai Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig.

“Bydd Deall Lleoedd Cymru yn galluogi pobol sy’n byw yn y cymunedau hyn i ddeall eu hardaloedd yn well a sicrhau bod gan gynllunwyr lleol, actifyddion, busnesau ac elusennau yr wybodaeth gywir.”

“Rydym yn ychwanegu hyd yn oed yn fwy i’r wefan dros y flwyddyn nesaf, megis data amgylcheddol ychwanegol a gwybodaeth am weithgarwch diwylliannol lleol, ac rydym yn gyffrous i weld y gwahaniaeth cadarnhaol y bydd hyn yn ei wneud i gymunedau ledled Cymru.”