Mae pedoffeil a fu’n twyllo bechgyn ifanc ar y we trwy esgus bod yn ferch yn ei harddegau, wedi cael ei garcharu am bedair blynedd.

Cafodd Jamie Hopes, 24, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd yr wythnos ddiwethaf (dydd Gwener, Hydref 4) ar ôl iddo bledio’n euog i gyfres o droseddau rhyw yn ymwneud â phlant.

Llwyddodd yr heddlu i’w ddal ym mis Mehefin 2018 ar ôl i swyddogion olrhain fideo a oedd yn dangos bechgyn yn cyflawni gweithredoedd rhywiol, i’w gyfeiriad IP.

Fe’i arestiwyd yn dilyn cyrch ar y cartref ym Maesteg yr oedd yn ei rannu gyda’i rieni. Yn ôl Heddlu De Cymru, ei ymateb iddyn nhw ar y pryd oedd: “Dw i’n gwybod beth rydych chi’n sôn amdano. Mae e ar fy ffôn symudol.”

Ar ôl archwilio’r cartref, daeth yr heddlu o hyd i gyfres o ddyfeisiau, gyda dau ohonyn nhw’n cynnwys mwy na 50,000 o ddelweddau anweddus o blant.

Maen nhw’n credu bod Jamie Hopes – a oedd yn hyfforddwr sarjants gyda’r Cadetiaid – wedi rhannu swm go helaeth o’r deunydd gyda phedoffiliaid eraill ar-lein.

Twyllo bechgyn ifanc

Yn ystod yr ymchwiliad, daeth yr heddlu o hyd i ffeil o’r enw ‘For Baiting’ a oedd yn cynnwys delweddau o ferch ifanc a ddefnyddiwyd at ddibenion amheus ar y we.

Mae’r heddlu yn credu bod tua 40 o bobol wedi cael eu targedu gan Jamie Hopes, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi cael eu twyllo i gyflawni gweithredoedd rhywiol.

Ymhlith y 15 o gyhuddiadau yn erbyn Jamie Hopes oedd achosi neu gymell plentyn i gyflawni gweithred rywiol, a bod ym meddiant a dosbarthu delweddau anweddus o blant.

Yn ogystal â chyfnod yn y carchar, mae Jamie Hopes wedi cael ei orchymyn i beidio â chysylltu ag unrhyw un o dan 18 oed.

Mae ei enw hefyd wedi cael ei ychwanegu at restr y troseddwyr rhyw am gyfnod amhenodol.