Mae trefnwyr Hanner Marathon Caerdydd wedi cyhoeddi enw’r rhedwr a fu farw yn dilyn y ras ddoe (dydd Sul, Hydref 6).

Roedd Nicholas Beckley yn 35 oed ac yn dod o Gaerdydd.  Roedd wedi cael trawiad ar y galon ger y llinell derfyn ar ôl cwblhau’r ras.

Dywed trefnwyr y byddan nhw’n cynnal “adolygiad llawn” wedi marwolaeth Nicholas Beckley.

Fe fu farw dau redwr, Ben McDonald, 25, o Gaerdydd a Dean Fletcher, 32, o Exeter ar ôl cymryd rhan yn y ras y llynedd.

Rhedwr brwd

Roedd Nicholas Beckley yn gweithio yn yr adran gynllunio yng Nghyngor Caerdydd ac yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd wedi rhedeg yn y ras ddwywaith o’r blaen ac yn rhedwr a phêl-droediwr brwd.

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd ei frawd, Andrew Beckley, ei fod yn “ŵr bonheddig a bydd colled fawr ar ei ôl.” Er iddo gael ei eni yn Nyfnaint roedd yn “angerddol am Gaerdydd ac yn ei hystyried fel ei gartref.”

Dywedodd Run 4 Wales bod Nicholas Beckley wedi cael triniaeth gan y tîm meddygol brys a’i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd lle bu farw.

Dywedodd prif weithredwr Run 4 Wales, Matt Newman: “Mae ein cydymdeimlad dwys gyda theulu Nicholas Beckley.

“Fe fyddwn yn aros mewn cysylltiad agos gyda’i deulu ac yn parhau i roi cefnogaeth iddyn nhw.”

Mae’r teulu wedi dechrau casglu arian er cof amdano ac yn annog rhai sydd eisiau rhoi rhodd i wneud cyfraniad i elusen Mind.

Roedd 27,500 o redwyr wedi cymryd rhan yn  y ras dros 13.1 milltir yn y brifddinas.