Mae’r tri dyn a gafodd eu harestio ar ôl i gar gael ei yrru ar gyflymder ar brom Aberystwyth dros y penwythnos, wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 5yb ddydd Sadwrn (Hydref 5) yn dilyn adroddiadau am ffrwgwd ger bariau a chlwb nos y pier.

Yn dilyn y ffrwgwd, cafodd car gwyrdd tywyll ei weld yn cael ei yrru’n beryglus yn yr ardal, gan daro nifer o bobol a philer ar y prom.

Cafodd un dyn driniaeth gan barafeddygon yn y fan a’r lle, ond dyw ei fywyd ddim mewn peryg, meddai Heddlu Dyfed Powys. Doedd dyn arall ddim eisiau derbyn triniaeth, medden nhw wedyn.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar unwaith.

FIDEO O’R DIGWYDDIAD AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL:

https://www.facebook.com/gav1313/videos/10162394290805361/