Mae mwy o fenywod na dynion yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd heddiw (dydd Sul, Hydref 6), a hynny am y tro cyntaf erioed.

Roedd disgwyl i 27,500 o bobol ddechrau’r ras, gyda hyd at 50,000 yn rhagor yn gwylio o amgylch y brifddinas.

Mae Stryd y Castell, lle dechreuodd y ras, ynghau ers oriau man y bore, a bydd nifer o ffyrdd ynghau ar draws y brifddinas tan oddeutu 3.15yp.

O’r castell, fe fu’r rhedwyr yn mynd am Stadiwm Dinas Caerdydd ac i gyfeiriad Marina Penarth.

O’r fan honno, mae’r rhedwyr yn mynd heibio Canolfan y Mileniwm cyn rhedeg o amgylch llyn Parc y Rhath ac yna i gyfeiriad y Ganolfan Ddinesig, lle bydd y ras yn dod i ben.