Mae Plaid Cymru yn dweud y bydden nhw’n creu deddf awtistiaeth yng Nghymru pe baen nhw’n dod i rym ar ôl yr etholiadau nesaf yn y Cynulliad yn 2021.

Byddai’r ddeddf yn seiliedig ar hawliau pobol awtistig a’r rheiny sy’n aros am ddiagnosis.

Mae cynhadledd y blaid yn Abertawe wedi cefnogi cynnig gan y grŵp yn y Cynulliad, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu panel niwroamrywiol i helpu i lunio polisïau yng Nghymru.

Mae gan fwy na 30,000 o bobol yng Nghymru awtistiaeth.

‘Mwy o ymwybyddiaeth’

Mae Leanne Wood yn dadlau fod angen trin cleifion yn niwro-amrywiol yn hytrach na chymryd fod y cyflwr yr un fath i bawb.

“Bydd y polisi hwn yn golygu symud tuag at drin awtistiaeth fel mater o gydraddoldeb yn hytrach nag fel un sy’n gyfyngedig i iechyd, addysg neu wasanaethau cymdeithasol,” meddai Leanne Wood, llefarydd cyfiawnder cymdeithasol y blaid.

“Mae yna fwy o ymwybyddiaeth bellach nad yw meddu ar ymennydd sy’n niwrolegol wahanol – sy’n cynnwys ond nid yn gyfyngedig i bobol ag awtistiaeth – yn nam, ond yn hytrach yn fath o niwro-amrywiaeth sy’n gofyn am dderbyniad a chynhwysiant cymdeithasol gymaint ag ydyw’n galw am gefnogaeth ymarferol.”