Fe fydd yr Archdderwydd a chyn Aelod Cynulliad yn cyflwyno deiseb gydag enwau 1,500 o ymgyrchwyr arni  yn galw am gofnod cwbl Gymraeg o drafodion y Cynulliad.

Fe fydd yr Archdderwydd T James Jones a’r cyn AC  Owen John Thomas yn cyflwyno’r ddeiseb yfory.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dadlau “os yw gwleidyddion y Cynulliad o ddifrif am wneud y Gymraeg yn ganolog i waith y corff, peth hollol sylfaenol yw sicrhau mewn statud bod cofnod eu trafodion ar gael yn Gymraeg.”

Wrth i’r Cynulliad ymgynghori ar y Mesur Ieithoedd Swyddogol, mae ymgyrchwyr yn galw am sicrhad y bydd y cofnod llawn ar gael yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae’r mesur yn eithrio’r Cynulliad o unrhyw gyfrifoldeb i ddarparu dogfennau yn y Gymraeg, gyda hynny yn dibynnu ar gynnwys eu cynllun iaith.

Fe fu’r cofnod ar gael yn Gymraeg hyd at 2009, ac mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dod i’r casgliad bod y Cynulliad yn torri’r gyfraith gyda’r sefyllfa fel y mae ar hyn o bryd.

‘Sylfaenol’

Os yw’r gwleidyddion yn ein Cynulliad o ddifrif am wneud y Gymraeg yn ganolog i waith y corff, peth hollol sylfaenol yw sicrhau mewn statud bod cofnod eu trafodion ar gael yn Gymraeg,” meddai Catrin Dafydd, llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Mae’n codi’r cwestiwn: pam fod swyddogion wedi llunio mesur drafft sydd yn eithrio’r Cynulliad rhag gorfod darparu dogfen mor bwysig â hyn yn ddwyieithog?

“Newid i’r mesur hwnnw yw’r unig ffordd o sicrhau nad oes rhaid codi’r ymgyrch yma eto. Mae pob corff a chwmni yng Nghymru yn edrych tuag at ein gwleidyddion yng Nghaerdydd am arweiniad ar y Gymraeg, os na allan nhw gyflawni ar ein rhan, fe fydd y Gymraeg yn dioddef ym mhob rhan o fywyd.”