Mae Tom Lawrence, chwaraewr pêl-droed Cymru, wedi colli chwe wythnos o gyflog ar ôl i’w glwb Derby ei gosbi am yfed a gyrru.

Mae’r clwb yn dweud ei fod e a Mason Bennett wedi dwyn anfri ar y clwb yn dilyn digwyddiad ar Fedi 24.

Cafodd y ddau eu cyhuddo o yfed a gyrru yn dilyn gwrthdrawiad yr wythnos ddiwethaf, pan gafodd chwaraewr arall, Richard Keogh anafiadau difrifol i’w goes sy’n golygu na fydd e’n chwarae am flwyddyn.

Yn dilyn gwrandawiad disgyblu, mae Tom Lawrence a Mason Bennett wedi cael y gosb fwyaf mae modd i glwb ei roi yn ôl cytundebau chwaraewyr.

Byddan nhw hefyd yn gwneud 80 awr ychwanegol o waith yn y gymuned yn ôl dymuniad y clwb, sydd hefyd wedi rhoi gorchymyn iddyn nhw gwblhau cwrs ymwybyddiaeth alcohol.

Bydd Tom Lawrence a Mason Bennett yn mynd gerbron llys ar Hydref 15 i wynebu cyhuddiadau.