Mae’r heddlu wedi cyhoeddi nw dyn 66 oed y cafwyd hyd i’w gorff mewn eiddo ger Castell-nedd ddydd Mercher (Hydref 2).

Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 10.30 y nos i Heol Talbot yn ardal Cimla, lle daethon nhw o hyd i gorff Wayne Pugh.

Mae dyn 54 oed wedi’i arestio mewn perthynas â’i farwolaeth ac wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliad gael ei gynnal.

Dydy’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd.

“Mae teulu Wayne yn torri eu calonnau yn dilyn y golled sydyn ac yn gofyn am gael parchu eu preifatrwydd ar yr adeg anodd hon,” meddai’r teulu mewn datganiad trwy law’r heddlu.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.