Darren Millar
Mae Aelod Cynulliad Ceidwadol wedi dweud ei fod yn “bryderus iawn” am gynnig pedwar Aelod Cynulliad i newid y gyfraith ar daro plant.

Mae Christine Chapman AC a Julie Morgan AC o’r Blaid Lafur, Lindsay Whittle AC Plaid Cymru, a Kirsty Williams Arweinydd y Democratiaid  Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi dod at ei gilydd i gynnig cael newid y gyfraith fel bod taro plant yn anghyfreithiol.

Mae’r grŵp aml-bleidiol yn cynnig y dylai taro plant gael ei wahardd yn gyfan gwbwl, ac na ddylai rhieni fod yn gallu amddiffyn eu hunain rhagor drwy guddio tu ôl i’r “esgus o roi cerydd”.

Ond dywedodd Darren Millar wrth Golwg360: “Mae’r rhan helaeth o rieni yn gwybod lle mae tynnu llinell, a dydw i ddim yn meddwl bod gwneud canran uchel iawn o boblogaeth Cymru yn droseddwyr yn mynd i wella sefyllfa plant,” meddai.

“Dwi’n bryderus iawn ein bod ni’n ceisio ymyrryd â’r cartref teuluol,” meddai.

Yn ôl yr Aelod Cynulliad dros Orllewin Clwyd, mae’n afrealistig meddwl y byddai gwahardd taro plant wrth eu disgyblu yn cael gwared ar gamdrin plant.

“Un dull o blith nifer wrth roi cerydd yw taro plentyn,” meddai Darren Millar.

Ond yn ôl Lindsay Whittle mae’n “bwysig bod Cymru yn arwain fel un o wledydd mwyaf dyngarol y byd”.

“Mae 23 o wledydd eisoes wedi gwahardd taro plant,” meddai Lindsay Whittle wrth Golwg360, “a dwi’n siwr y byddai Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn ein dilyn ni petai ni’n llwyddo i basio hyn.

“Mae gwarchod plant yn holl bwysig,” meddai, “ac mae gen i wrthwynebiad mawr i weld rhieni yn taro’u plant erioed.”

Nid dyma’r tro cyntaf i’r mater gael ei drafod yn y Cynulliad, ar ôl i ddadl arall ar y mater arwain at drafodaeth eang ar allu’r Cynulliad i ddeddfu yn y maes.

Taro plant fydd y testun cyntaf i’w drafod dan system newydd sy’n cael ei dreialu gan y Cynulliad ar hyn o bryd er mwyn galluogi mwy o aelodau i godi materion i gael eu trafod gan gyfarfod llawn o’r Cynulliad.