Gyda Brexit yn taflu cysgod dros y tirlun gwleidyddol mae’n “ddigon rhesymegol” bod pobol yn colli ffydd yn San Steffan .

Dyna mae arweinydd Plaid Cymru yn Llundain, Liz Saville Roberts, wedi ei ddweud yng nghynhadledd ei phlaid yn Abertawe.

Mae’r Aelod Seneddol yn teimlo bod Brexit wedi rhoi cymaint o straen ar San Steffan a’i phrif bleidiau fel bod ei methiannau yn gliriach nag erioed.

“Pwynt [plaid wleidyddol] yw trio gwneud rhywbeth dros set o bobol rydych yn gobeithio eu cynrychioli,” meddai wrth golwg360.

“Mae fel bod San Steffan, yn strwythurol, wedi methu yn hynny o beth. Os ydych chi’n gweld corff – San Steffan – yn methu, rydych yn mynd i edrych tuag at lefydd eraill. Mae’n ddigon rhesymegol.

“Mae gennym ni’r strwythur newydd yma. Mae gennym ni’r Cynulliad newydd yma yng Nghymru… Y cwestiwn nawr ydy: Pam na allwn ni wneud jobyn gwell ohoni?…

“Mae’n rhoi hygrededd i hynny pan rydych yn gweld yr hyn yr oeddwn ni’n cymryd yn ganiataol effeithiol, yn bod yn gwbl aneffeithiol!”

Arolwg diweddar

Daw sylwadau Aelod Seneddol Dwyfor Meirionydd wedi iddo ddod i’r amlwg y byddai 41% o bobol yn cefnogi annibyniaeth i Gymru pe bai’n golygu bod modd aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd yr arolwg YouGov/Plaid Cymru hefyd yn dangos y byddai 31% yn pleidleisio tros annibyniaeth i Gymru pe bai pleidlais ar y mater yfory.