Ar ddiwrnod cyntaf Cynhadledd Flynyddol Plaid Cymru yn Theatr y Grand yn Abertawe, mae golwg360 wedi bod yn holi’r aelodau yno am eu dewis ar gyfer y Cadeirydd nesaf.

Mae Dr Dewi Evans yn herio Alun Ffred Jones am y swydd a bydd pleidlais yn cael ei chynnal yfory i ddewis enillydd, gyda disgwyl cyhoeddiad tua amser te.

Alun Ffred Jones yw’r Cadeirydd presennol, ac mae wedi bod yn Aelod Cynulliad a Gweinidog yn Llywodraeth Cymru.

Ac mae Dr Dewi Evans wedi dweud y byddai’n croesawu, Neil McEvoy, Aelod Cynulliad a’r cyn-aelod Plaid Cymru, yn ôl pe bai yn dod yn Gadeirydd. A dyw’r polisi yna ddim at ddant pob aelod.

“Aros i glywed y ddwy ochr”

“Mater eithaf dadleuol” yw’r ras yng ngeiriau June James o Gydweli, sydd yn ymweld â’i chynhadledd Plaid Cymru cyntaf erioed.

Er ei bod yn “gogwyddo tuag at Alun Ffred ar hyn o bryd” dyw hi ddim yn hollol siŵr eto os mai ef fydd yn ennill ei phleidlais.

“Dw i’n aros i glywed y ddwy ochr,” meddai. “Dw i’n hoff o ffeithiau, felly dw i’n gwneud fy ngwaith darllen ar bob dim. Dw i wedi edrych ar eu hymrwymiadau, ac mi fydda’ i yn bwrw pleidlais.”

 hithau ond yn aelod ers mis Mawrth, mae June James ond wedi clywed “ambell beth” am sefyllfa Neil McEvoy. Er hynny, mae’n deall bod “pethau wedi troi ychydig yn gas”.

Cefnogi Alun Ffred

Cynrychiolydd Cwm Aber ar Gyngor Caerffili yw John Taylor, ac mae’n aelod o’r Blaid ers 1968. Mae wedi penderfynu dal ati i gefnogi Alun Ffred Jones.

Mae ambell beth dw i’n cwestiynu, ond ar y cyfan dw i’n credu ei fod wedi gwneud jobyn da iawn ohoni,” meddai John Taylor.

“A dw i’n pryderu rhyw faint bod rhai o’r bobol eraill sydd wedi cael eu henwebu i’r Pwyllgor Gwaith, heb gael eu henwebu gan eu hetholaethau eu hunain.

“Mae’r rhain wedi cael eu henwebu gan un etholaeth benodol. Ac mae hynny’n destun pryder i mi.”

Cyfeiriad yw hyn at etholaeth Gorllewin Caerdydd – etholaeth wnaeth Neil McEvoy sefyll drosti yn etholiad Cynulliad 2016, ac sydd wedi enwebu mwy o ymgeiswyr at y Pwyllgor Gwaith nag unrhyw etholaeth arall.

Plaid Cymru “ddim yn fwy rhanedig na’r pleidiau eraill”

Del Morgan yw Cynghorydd Glyn-nedd ar Gyngor Castell-Nedd Port Talbot ac mae eisoes wedi penderfynu pwy fydd yn derbyn ei bleidlais.

Dyw e’ ddim eisiau datgelu pwy mae wedi ei ddewis, a does ganddo “ddim clem” ynghylch pwy wneith ennill, ond mae yn fodlon cyfaddef bod ei ardal yntau’n rhanedig ar y mater.

Dyw’r Blaid “ddim yn fwy rhanedig na’r pleidiau eraill”, meddai, ond mae yn cydnabod bod angen mynd i’r afael ag anghydfod Neil McEvoy.

“Fy nheimlad i am hwnna yw ei fod yn hen bryd i aelodau Plaid eistedd rownd y ford a sorto fe mas,” meddai. “Mae rhan o hwn lan iddo fe, Neil ei hunan. Ac mae rhan o’r peth lan i’r gweddill.

“Os oes yna ryw fath o gasgliad yn y pendraw, mae’n rhaid yn awr i bobol eistedd rownd y ford o ddifri a sorto fe mas. Os nag oes pethau’n cael eu sorto mas bydd y dadlau’n parhau.”